Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
24 Mai 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13347
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 3 ac 8 gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 14.31
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.45 i ystyried rhagor o welliannau i'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y Cyfnod Adrodd
Am 15.22, yn unol â Rheol Sefydlog 26.45, gwnaed cynnig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru i ystyried rhagor o welliannau i’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y Cyfnod Adrodd.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
15 |
1 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
3 Cwestiynau Amserol
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.25
Gwnaeth Elin Jones ddatganiad am - Nodi canrif ers dechrau'r Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru i Fenywod yr Unol Daleithiau.
Gwnaeth John Griffiths ddatganiad am - 50 Mlwyddiant Cymdeithas Achub Ardal Hafren.
Gwnaeth Cefin Campbell ddatganiad am - Dymuno'n dda i Llanymddyfri wrth iddynt groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
Dechreuodd yr eitem am 15.30
NNDM8277 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal dros dro Reol Sefydlog 12.10(ii) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8276 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 24 Mai 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynnig i ethol Cadeiryddion ac Aelodau Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.31
NNDM8276 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â Phwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru.
2. Yn penderfynu, at ddibenion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru, y dylid dehongli cyfeiriadau yn y Rheolau Sefydlog at 'gadeirydd' pwyllgor i olygu 'cyd-gadeirydd' a bod yn rhaid i swyddogaethau cadeiryddion pwyllgorau a amlinellir yn y Rheolau Sefydlog gael eu harfer ar y cyd gan Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru.
3. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
a) Vikki Howells (Llafur Cymru), Jack Sargeant (Llafur Cymru), Altaf Hussain (Ceidwadwyr Cymreig) ac Adam Price (Plaid Cymru) yn aelodau o Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru;
b) Joyce Watson (Llafur Cymru) a Tom Giffard (Ceidwadwyr Cymreig) yn Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru.
4. Yn penderfynu cyfarwyddo y dylai busnes cychwynnol Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ystyried y gweithdrefnau y mae'n bwriadu eu mabwysiadu i gyflawni'r dibenion y mae wedi'u sefydlu ar eu cyfer (gan gynnwys gweithredu’r trefniadau cyd-gadeirio) ac argymell unrhyw ddiwygiadau i'r Rheolau Sefydlog y mae'n eu hystyried yn angenrheidiol neu'n fuddiol i hwyluso ei waith.
5. Yn nodi y bydd y Pwyllgor Busnes yn cynnig unrhyw ddiwygiadau i'r Rheolau Sefydlog y mae o’r farn sydd eu hangen i hwyluso gwaith Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru, gan ystyried unrhyw argymhellion ar gyfer diwygiadau a wneir gan Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5 Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Bwyd (Cymru)
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8271 Peter Fox (Mynwy)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Bwyd (Cymru).
Gosodwyd y Bil Bwyd (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 12 Rhagfyr 2022.
Dogfennau
Ategol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a
Materion Gwledig
Ymateb gan Peter Fox AS, yr Aelod sy’n gyfrifol
am y Bil i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder
a’r Cyfansoddiad
Ymateb gan Peter Fox AS, yr Aelod sy’n gyfrifol
am y Bil i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Adroddiad y Pwyllgor
Cyllid
Ymateb gan Peter Fox AS, yr Aelod sy’n gyfrifol
am y Bil i’r Pwyllgor Cyllid
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
1 |
25 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig.
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol
Dechreuodd yr eitem am 16.42
NDM8270 Jenny Rathbone (Canol Caredydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol” a osodwyd ar 8 Mawrth 2023.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mai 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Deintyddiaeth y GIG
Dechreuodd yr eitem am 17.39
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8272 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod ymchwiliad gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi canfod nad yw 93 y cant o feddygfeydd deintyddol yng Nghymru yn derbyn cleifion newydd GIG Cymru sy'n oedolion.
2. Yn cydnabod bod arolwg Cymdeithas Ddeintyddol Prydain o 250 o ddeintyddion yng Nghymru wedi canfod bod dros draean o ddeintyddion yn bwriadu lleihau eu contractau GIG yng Nghymru.
3. Yn mynegi pryder bod llawer o drigolion ledled Cymru yn aros dros ddwy flynedd i gofrestru gyda deintydd GIG yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i sicrhau bod contractau deintyddol GIG Cymru yn caniatáu i bractisau deintyddol gynyddu nifer eu cleifion; a
b) recriwtio mwy o ddeintyddion ar frys drwy wneud deintyddiaeth GIG Cymru yn yrfa ddeniadol, drwy ad-dalu ffioedd dysgu i'r rhai sy'n gweithio mewn practisau deintyddol GIG Cymru am bum mlynedd.
Gwybodaeth ategol
Ymchwil Cymdeithas Ddeintyddol Prydain i bractisau deintyddol sy’n derbyn cleifion newydd y GIG sy’n oedolion (Saesneg yn unig)
Arolwg Cymdeithas Ddeintyddol Prydain o 250 o ddeintyddion o Gymru (Saesneg yn unig)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod adfer gwasanaethau deintyddol ar ôl pandemig y coronafeirws yn her hirdymor ar draws y Deyrnas Unedig.
2. Yn nodi bod cael gafael ar wasanaethau deintyddol yn parhau i fod yn heriol i rai pobl yng Nghymru.
3. Yn nodi bod mwyafrif llethol y practisau deintyddol â chontractau’r GIG yn cymryd cleifion GIG newydd y llynedd ac y byddant yn parhau i wneud hynny eleni.
4. Yn nodi bod 174,000 o bobl nad oeddent wedi cael gofal deintyddol y GIG yn hanesyddol wedi cael apwyntiad ac wedi cael triniaeth y llynedd.
5. Yn nodi bod lleiafrif o gontractau deintyddol wedi’u terfynu neu wedi’u lleihau o ran eu gwerth, a bod yr arian a ddychwelwyd yn cael ei gadw gan y bwrdd iechyd i ailgomisiynu gwasanaethau yn eu lle.
6. Yn croesawu y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i:
a) gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i ddatblygu a negodi contract deintyddol newydd sy'n gwneud deintyddiaeth y GIG yn ddewis deniadol; a
b) gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac israddedigion deintyddiaeth i ddeall beth fyddai'n eu cymell i weithio yng Nghymru ar ôl graddio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu fel is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 4:
adolygu amodau cytundebol ar gyfer deintyddion a gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol i'w gwneud yn fwy cynaliadwy a deniadol yn y tymor hir;
meithrin gallu hyfforddi deintyddol, gan gynnwys drwy archwilio'r posibilrwydd o sefydlu ysgol ddeintyddol newydd yn y gogledd;
datblygu strategaeth cadw'r gweithlu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.
Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
8 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.50
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.56
NDM8269 Tom Giffard (Gorllewin De Cymru)
Coffadwriaeth barhaol i'w diweddar Fawrhydi Brenhines Elizabeth II
Daeth y cyfarfod i ben am 19.13
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 6 Mehefin 2023